Isaiah 8

Rhybudd a gobaith

1Yna dwedodd yr Arglwydd wrtho i, “Dos i nôl hysbysfwrdd mawr ac ysgrifenna arno'n glir ‘I Maher-shalal-has-bas’”.
8:1 Maher-shalal-has-bas Ystyr yr enw Hebraeg ydy “Difrod sydyn, ysbeilio cyflym”.
2Dyma fi'n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia. 3Wedyn dyma fi'n gorwedd gyda'm gwraig a dyma hi'n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho i, “Galw fe'n Maher-shalal-has-bas, 4achos cyn i'r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.”

Mae Assyria'n dod

5A dyma'r Arglwydd yn siarad gyda mi eto:

6“Mae'r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa,
8:6 dŵr Siloa Nant oedd yn llifo o ffynnon ar ochr ddwyreiniol Jerwsalem.

sy'n llifo'n dawel,
ac wedi plesio Resin a mab Remaleia.
7Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryf
yr Ewffrates lifo trostyn nhw –
sef brenin Asyria a'i fyddin.
Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau,
ac yn gorlifo'i glannau.
8Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogydd
ac yn codi at y gwddf.
Mae ei adenydd wedi eu lledu
dros dy dir i gyd, Emaniwel!”
9Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio!
Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd:
Paratowch i ryfel – ond cewch eich dryllio;
Paratowch i ryfel – ond cewch eich dryllio!
10Cynlluniwch strategaeth – ond bydd yn methu!
Cytunwch beth i'w wneud – ond fydd e ddim yn llwyddo.
Achos mae Duw gyda ni!

Yr Arglwydd yn annog Eseia

11Dyma ddwedodd yr Arglwydd wrtho i – fel petai'n gafael ynof fi a'm rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â'r bobl yma:

12“Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’
bob tro mae'r bobl yma'n dweud fod cynllwyn!
Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn
beth maen nhw'n ei ofni.
13Yr Arglwydd holl-bwerus ydy'r un i'w barchu!
Fe ydy'r unig un i'w ofni,
a dychryn rhagddo!
14Bydd e yn gysegr –
ond i ddau deulu brenhinol Israel
bydd yn garreg sy'n baglu pobl
a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.
Bydd fel trap neu fagl
i'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem.
15Bydd llawer yn baglu,
yn syrthio ac yn cael eu dryllio;
ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.”

Tystiolaeth Eseia

16Bydd y rhybudd yma'n cael ei rwymo, a'r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a'i gadw gan fy nisgyblion i. 17Dw i'n mynd i ddisgwyl am yr Arglwydd, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i'n ei drystio fe! 18Dyma fi, a'r plant mae'r Arglwydd wedi eu rhoi i mi. Maen nhw'n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr Arglwydd holl-bwerus, sy'n byw ar Fynydd Seion.

19Bydd pobl yn dweud wrthoch chi,
“Ewch i holi'r swynwyr a'r dewiniaid
sy'n sgrechian a griddfan.
Oni ddylai pobl geisio eu ‛duwiau‛ –
holi'r meirw ar ran y byw?”
20“At y gyfraith a'r dystiolaeth!
Os nad ydyn nhw'n siarad yn gyson â'r neges yma
maen nhw yn y tywyllwch.”
21Maen nhw'n cerdded o gwmpas
mewn eisiau a newyn.
Am eu bod yn llwgu byddan nhw'n gwylltio
ac yn melltithio eu brenin a'u ‛duwiau‛,
wrth edrych i fyny.
22Wrth edrych ar y tir
does dim i'w weld ond trwbwl a thywyllwch,
düwch a gwewyr meddwl –
bydd wedi ei daflu i dywyllwch dudew.
Copyright information for CYM